P-05-987 Dylid diweddaru’r canllawiau fel bod Canolfannau Hapchwarae i Oedolion, sy'n fusnesau teuluol, yn gymwys ar gyfer Grantiau Busnes yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Delucia Sidoli, ar ôl casglu cyfanswm o 706 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gan lawer o drefi yng Nghymru Ganolfan Hapchwarae i Oedolion. O'r holl ganolfannau felly yng Nghymru, dim ond dyrnaid sy'n rhan o gadwyn cenedlaethol; mae'r gweddill yn fusnesau teuluol.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn bendant na fydd yn diweddaru canllawiau Grant Busnes COVID i gefnogi'r canolfannau hapchwarae sy’n fusnesau teuluol. Mae canolfannau hapchwarae i oedolion hefyd wedi'u hepgor o'r Gronfa Gwydnwch Economaidd.
Mae rhai canolfannau hapchwarae yng Nghymru wedi gweithredu ers y 1980au ac mae pob un yn cyflogi pobl leol. Mae'r diffyg cefnogaeth gyfredol yn rhoi cannoedd o swyddi mewn perygl yng Nghymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae canolfannau hapchwarae i oedolion wedi cael eu cynnwys yng nghynlluniau grant Lloegr a’r Alban, ac mae busnesau yn y gwledydd hynny wedi cadarnhau eu bod wedi cael y grantiau.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru